Mae aelodau band Only Men Aloud yn synnu ar yr effaith y mae nhw’n ei gael ar fenywod ers ennill y gyfres Last Choir Standing y llynedd.

“Ro’n i’n synnu,” meddai Wyn Davies, cyn-fferyllydd sydd nawr yn canu tenor ac yn hyrwyddo’r côr yn llawn amser, “bod côr meibion yn gallu sefyll ar lwyfan, a gweld menywod yn mynd yn wyllt. Maen nhw’n seriously sgrechen.”

Fis Tachwedd, arwyddodd y côr gytundeb gyda label recordiau Universal ar gyfer pump albym, ac mae’r ail newydd ei ryddhau, Band of Brothers.

“Mae amryw o fenywod yn dod,” meddai Wyn Davies, cyn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, Cwm Tawe.

“R’yn ni’n gwneud Tom Jones medley – ac maen nhw’n taflu nicyrs at y llwyfan! Mae cwpwl o fois y côr yn lico meddwl bod nhw bach yn fflash. Ond dy’n ni ddim yn gadael i unrhyw un gael pennau mawr.”

O’r traddodiadol i’r Tyler

Er mai hen ganeuon traddodiadol o Gymru yw swmp a sylwedd Band of Brothers. Roedd yr arweinydd Tim Rhys-Evans am “ddod nôl i Gymru” gyda’r albwm.

Ond y goron ar y cyfan yw bod duwies roc Cymru, Bonnie Tyler, wedi ymuno â’r bois i ganu fersiwn o’i chlasur o 1983, ‘Total Eclipse of the Heart’.

“Rwy’n dwlu ar y gân,” meddai Tim Rhys-Evans. “Efo lot o ganeuon pop cyfoes – does dim lot o alaw, ond gyda chân fel’na, mae’r alaw lot fwy tebyg i alaw glasurol.”

Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Medi 10