Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn yn dechrau ail feddwl ynglyn a’r penderfyniad i gau rhai o byllau nofio’r ynys.

Roedd y bwriad gwreiddiol fis Gorffennaf wedi bod mor amhoblogaidd efo trigolion yr ynys.

Mae arweinydd y cyngor Clive McGregor wedi cyfaddef mewn llythyr at y Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro, Richard Parry Jones, fod y penderfyniad i gau wedi bod yn un rhy “frysiog”.

“Mae’r drafodaeth gyhoeddus sydd wedi bod ar y testun yma yn mynegi teimlad y cyhoedd … rydym yn unfrydol fel Pwyllgor Gwaith bod yn rhaid inni ystyried effaith y dirwasgiad ar bob gwasanaeth cyn gwneud y penderfyniad terfynol ar y Canolfannau Hamdden,” meddai Clive McGregor.

‘Ymchwiliad llawn’

Mae’n gofyn i gael dod ag eitem o flaen y Pwyllgor Gwaith fyddai’n dweud “ni fydd unrhyw ganolfan yn cau hyd nes y bydd ymchwiliad llawn wedi ei gwblhau ar bob un ohonynt, gan gynnwys adolygiadau staffio, costau cynnal a chadw a chyflwr adeilad … a pharodrwydd y sector gwirfoddol neu breifat i gymryd y canolfannau …”

Roedd y penderfyniad gwreiddiol yn cynnwys cau pwll nofio Amlwch yn ogystal ag unai pwll nofio Llangefni neu Gaergybi. Byddai Cyngor Ynys Môn yn rhoi’r gorau i redeg un Biwmares.

Cewch ddarllen weddill y stori yn Golwg, Medi 10