Rhaid i Blaid Cymru wneud ei bolisi’n glir ar y Ganolfan Hyfforddi Milwrol arfaethedig yn Sain Tathan os yw hi am gael ei hystyried yn blaid sydd o ddifrif am ei gwleidyddiaeth.
Dyna neges cangen y Barri o’r Blaid wrth gyflwyno cynnig i wrthwynebu’r ganolfan yng nghynhadledd y Blaid yn Llandudno ddydd Sadwrn.
“Nid dadl ar heddychiaeth yw hon,” eglura Steffan William sy’n gynghorydd ym Mro Morgannwg dros Blaid Cymru ac yn aelod o Gangen y Barri.
Er ei fod yn ymwybodol o ddaliadau heddychol rhai aelodau o’r blaid sy’n gwrthwynebu Canolfan Filwrol Sain Tathan mae’n mynnu bod llawer mwy i’r mater na hynny.
Cewch ddarllen weddill y stori yn Golwg, Medi 10