Wrth i’r ddadl barhau ynglyn a phenderfyniad Comisiwn y Cynulliad i beidio cyfieithu Cofnod trafodaethau’r Senedd i’r Gymraeg, mae Aelodau Cynulliad o bob plaid yn dangos eu cefnogaeth i Fwrdd yr Iaith.
Maen nhw’n mynnu y dylai’r Comsiwn fod wedi ymgynghori gyda’r Llywodraeth a’r pleidiau gwleidyddol cyn gwneud y penderfyniad.
Ar drothwy’r tymor gwleidyddol newydd, mae Aelodau Cynulliad o bob plaid yn galw ar i’r Comisiwn gynnal trafodaeth ar y penderfyniad i beidio cyfieithu trafodaeth Saesneg y siambr i’r Gymraeg fydd yn golygu arbedion o £250,0000.
Maen nhw’n gobeithio y caiff y penderfyniad ei wyrdroi ond yn barod i lunio cynnig i drafod gwneud union hynny yn y senedd os oes angen.
‘Clywed mwy gan y cyfryngau’
“Mae’r Comisiwn wedi gwneud camgymeriad,” meddai Alun Davies, llefarydd Llafur ar Ddiwylliant.
Mae’n gandryll mai trwy Golwg adeg yr Eisteddfod ym mis Awst y clywodd am y penderfyniad, nid gan y Comisiwn ei hun.
“Dw i’n credu ei fod e’n tanseilio’r Cynulliad a’r egwyddor y dylai’r Cynulliad fod yn gorff sy’n gweithredu trwy’r ddwy iaith ar egwyddor o gydraddoldeb. Dw i’n anghytuno hefyd â’r ffordd mae’r penderfyniad wedi cael ei wneud.
“Dyw’r Aelodau Cynulliad yn gwybod dim am hyn – dy’n nhw ddim wedi cysylltu â fi o gwbwl. Ry’n ni wedi clywed mwy am hyn gan y cyfryngau na’r Comisiwn a dylai’r Comisiwn fod wedi cysylltu â ni.”
Daeth y newid i’r amlwg ar wefan Golwg 360 yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ddechrau Awst. Ers hynny, mae Bwrdd yr Iaith wedi ysgrifennu at y Comisiwn yn gofyn am esboniad o’r penderfyniad.
Cewch ddarllen weddill y stori yn Golwg, Medi 10