Mae adroddiad newydd yn rhybuddio y gall trethdalwyr Cymru orfod ysgwyddo’r baich am fod ffermwyr wedi bod yn araf yn brechu yn erbyn clefyd y tafod glas.

Ac mae Golwg wedi ddatgelu y gallai’r bil fod dros £2 filiwn am fod dyddiad defnyddio’r brechiadau wedi dod i ben ar ddiwrnod olaf Awst.

Cafodd Llywodraeth y Cynulliad wybod bod achos o’r tafod glas wedi ei chadarnhau yng ngwledydd Prydain ar Fedi 22, 2007.

Dim ond 23% wedi brechu

Flwyddyn yn ôl ar Fedi 1, 2008 dechreuodd rhai o ffermwyr Cymru frechu yn erbyn y clefyd ar ôl i’r wlad gyfan gael ei gwneud yn rhanbarth amddiffyn rhag y clefyd.

Ond yn wahanol i’r Alban – lle mae ffermwyr yn cael eu gorfodi i frechu eu hanifeiliaid yn erbyn y tafod glas, does dim gorfodaeth ar ffermwyr Cymru a Lloegr i wneud hynny.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyfaddef bod ffermwyr wedi bod yn araf i ymateb i’r cais i frechu defaid a gwartheg yn wirfoddol – dim ond 23% sydd wedi brechu o gymharu â thair gwaith hynny yn Lloegr.