Mae rhai plant o ardaloedd tlotaf y Deyrnas Unedig yn dechrau ysgol heb fedru sgiliau sylfaenol fel defnyddio cyllell a fforc, gwisgo eu hunain, a mynd i’r tŷ bach.

Dyna y mae llywydd newydd y Gymdeithas Athrawon a Darlithwyr, Lesley Ward, wedi ei honni – mae’n cymharu’r sefyllfa gyda thlodi yn nofelau Charles Dickens.

O ganlyniad, meddai, mae’n dasg anodd iawn i ysgolion geisio dysgu’r plant a gwraidd y cyfan yw diffyg uchelgais o ran addysg.

Diffyg sgiliau mewn bod yn rhieni oedd y broblem, meddai Lesley Ward mewn cyfweliadau heddiw. Roedd rhieni a oedd yn dlawd o ran arian yn gallu bod yn rhieni da iawn.

Barn Lesley Ward am dlodi

“Mae yna blant sy’n hollol iach yn dod i’r ysgol ond sydd heb gael eu dysgu i ddefnyddio’r tŷ bach”, meddai Lesley Ward wrth siarad yng nghynhadledd y gymdeithas. “Plant sy’n methu gwisgo eu hunain, plant sydd ddim ond yn gallu defnyddio llwy i fwyta.

“Plant sydd ddim yn gwybod pwy fydd yno pan maen nhw’n cyrraedd adref – os bydd yna unrhyw un. Plant sydd ddim yn gwybod pwy fydd eu tad yn y cartref o fis i fis.”

Barn Lesley Ward am addysg

Gwraidd y broblem yw “diffyg dyhead” mewn addysg, yn ôl Lesley Ward, a bod tlodi yn cynhyrchu “agweddau sy’n gwneud dysgu yn anodd”.

“Rydw i’n siarad ‘nawr am y math gwaethaf o dlodi mewn addysg, tlodi dyhead. Agweddau tebyg i ‘Pam dyle fe aros yn yr ysgol? Wnes i ddim a dw i’n dod i ben â hi’.”