Mae’n debyg bod aelod o’r Marines ar fin derbyn medal y Groes Filwrol ar ôl iddo achub hyd at 30 o fywydau drwy daro hunanfomiwr i’r llawr gyda “thacl rygbi”.

Roedd y Sarjiant Noel Connolly, 41, o Fanceinion, yn Afghanistan fis Tachwedd diwethaf ac, yn ôl papur newydd y Sun, roedd hunanfomiwr wedi gyrru beic modur gyda 150 pwys o ffrwydron arno i gyfeiriad criw o filwyr.

Cyn iddo eu taro fe lwyddodd y Sarjiant Connolly ei daclo i’r llawr. Bellach mae’r môr-filwr yn dweud nad oedd yn “ddewr o gwbl” ond bod yn “rhaid i rywun ei stopio fe”.

Yn ôl yr Uwch-gapten Rich Cantrill, “mae Sarjiant Connolly yn anhygoel o ddiymhongar ynglŷn â beth wnaeth e”.

Mae disgwyl i’r wobr – un o nifer i’r lluoedd arfog – gael ei chyhoeddi yfory.