Mae hyfforddwr Cymru John Toshack yn dal i obeithio y bydd modd i Gymru gyrraedd y trydydd safle yn eu grŵp yn rowndiau rhagbrofol Cwpan Pêl-droed y Byd.
Roedd colli 3-1 ar ôl brwydr galed yn erbyn Rwsia neithiwr yn gwneud yn hollol siŵr na fyddai Cymru’n cyrraedd y rowndiau terfynol yn Ne Affrica y flwyddyn nesa’.
Ond gyda’r Ffindir yn cael gêm gyfartal yn erbyn Liechtenstein neithiwr, mae gan Gymru siawns fain o hyd o fachu’r trydydd safle – trwy ennill eu gemau olaf oddi cartref, yn erbyn y Ffindir ac yna Liechtenstein fis nesaf.
“Ar ôl yr holl drafferthion yr ’yn ni wedi eu hwynebu yn y grŵp yma, a’r anlwc gydag anafiadau, mae gyda ni siawns o hyd o ddal y Ffindir,” meddai John Toshack.
“Bydd rhaid i ni obeithio ennill ein dwy gêm olaf a gobeithio y bydd yr Almaen yn curo’r Ffindir y mis nesaf.”
Dywedodd bod y sgôr neithiwr yn gwneud i Rwsia edrych yn well nag oedden nhw, gyda dwy gôl tua diwedd y gêm.
“Fe wnaeth yr hogiau bopeth wnes i ei ofyn,” meddai. “Roedden nhw’n ddisgybledig iawn ac fe wnaethon ni reoli lot o’r chwarae yn yr hanner cyntaf.”