Mae’r sychder mwyaf difrifol ers 12 mlynedd yn Kenya yn bygwth bron 4 miliwn o bobol ac yn lladd eliffantod ledled y wlad, yn ôl arbenigwyr.

Er nad oes cofnod o’r marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r sychder, mae Rhaglen Bwyd y Cenhedloedd Unedig wedi dweud bod 3.8 miliwn o bobol mewn p[eryg ac angen cymorth brys.

Yn ôl papur y Daily Nation yn Kenya, mae cyrff 40 o eliffantod wedi cael eu ffeindio yn ystod y ddeufis diwethaf, wrth i afonydd sychu a’r glaswelltiroedd farw.

Roedd arbenigwyr yn credu i ddechrau mai clefyd oedd yn gyfrifol am y marwolaethau, ond mae profion gwyddonol wedi methu â chadarnhau hyn.

Eisoes, mae’r sychder wedi lladd cannoedd o wartheg ac yn parhau i ddinistrio aceri o gnydau.

Llun: Parc Cenedlaethol yn Kenhya (Simone Roda – Trwydded CCA2.0)