Mae’r newyddiadurwr a gafodd ei herwgipio yn Afghanistan, yn cael ei feirniadu heddiw am herio cyngor diogelwch i beidio â mynd i mewn i ardaloedd y Taliban.

Fe gafodd milwr, gwraig leol a chyfieithydd eu lladd wrth i filwyr arbennig ryddhau Stephen Farrell, y Prydeiniwr sy’n newyddiadurwr i’r New York Times.

Yn ôl yr adroddiadau diweddara’, roedd y gohebydd 46 oed wedi cael sawl rhybudd gan Heddlu Afghanistan yn ogystal â henuriaid yr ardal.

Er gwaethaf hyn, aeth i mewn i ardal yng ngogledd talaith Kunduz er mwyn ymchwilio i honiadau o lygredd ynghylch etholiad Arlywydd y wlad.

Eisoes, mae’r Prif Weinidog wedi canmol “dewrder” y milwr. Ond, mae’r digwyddiad wedi ennyn dicter ymhlith uwch swyddogion y fyddin.

Amau gwerth yr achub

Dywedodd uwch swyddog dienw o’r fyddin wrth bapur y Daily Telegraph fod angen holi a oedd hi’n werth ei achub ac aberthu bywyd milwr.

O hyn ymlaen, rhybuddiodd y gallai milwyr arbennig “feddwl ddwywaith” mewn sefyllfa debyg ac fe gafodd hynny ei gefnogi gan Robin Horsfall, cyn swyddog SAS, ar raglen newyddion Channel 4.

“Yn anochel, bydd cwestiynau’n codi os yw newyddiadurwr yn gwneud rhywbeth anystyriol gan roi ei hun yn sefyllfa hon,” meddai.

Dyma’r ail waith i Stephen Farrell gael ei herwgipio. Cafodd ei herwgipio’r tro cyntaf yn Fallujah yn Irac, Ebrill 2004, wrth weithio i’r Times.

Llun: Y New York Times yn cyhoeddi’r newydd am ryddhau Stephen Farrell