Mae’r cynnwrf dros dimau yn dwyn chwaraewyr yn parhau, gyda Fiorentina yn ystyried gwneud cwyn swyddogol yn erbyn Man Utd.

Mae Man Utd eisoes wedi gwadu gwneud cais anghyfreithlon am chwaraewr Le Harve, Paul Pogba, ac maen nhw hefyd wedi bygwth siwio’r clwb Ffrengig am yr honiadau.

Ond gyda’r corff pêl-droed rhyngwladol FIFA wedi gosod cynsail trwy gosbi Chelsea yr wythnos ddiwethaf, mae nifer o honiadau’n cael eu gwneud gan glybiau yn Ewrop.

Y tro yma, dyw Fiorentina ddim yn hapus gyda’r modd y gwnaeth Man Utd arwyddo eu cyn amddiffynnwr 16 oed, Michele Fornasier.

Mae Fiorentina wedi cysylltu gyda FIFA, ond does dim ymchwiliad wedi cael ei lansio hyd yn hyn. Dadl Man Utd yw nad oedd gan Fornasier gytundeb gyda’r Eidalwyr ar y pryd.

Man City hefyd

Mae Man City hefyd wedi gorfod gwadu dwyn chwaraewr ifanc oddi ar glwb Rennes yn Ffrainc.

Yn ôl Rennes, fe wnaeth Man City arwyddo eu cyn chwaraewr Jeremy Helan yn anghyfreithlon.

Ond mae Man City wedi dweud bod yna broblemau rhwng y chwaraewr a Rennes cyn iddo symud.

Pryder

Mae Llywydd FIFA, Sepp Blatter, wedi dweud bod yna nifer o glybiau yn pryderu wedi’r gosb a gafodd Chelsea.

Does gan Chelsea ddim hawl i arwyddo chwaraewyr tan 2011, ac maen nhw hefyd wedi cael eu dirwyo am eu gweithredoedd.

Ond mae’r clwb o Lundain yn gwadu’r honiadau yn eu herbyn, ac yn bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad.

Yn ôl Sepp Blatter, mae angen edrych ar nifer o achosion o chwaraewyr sydd wedi symud o Affrica a De America i Ewrop.

Llun: Old Trafford (Andre Zahn – Trwydded CCA2.0)