Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi gwrthod cais gan y Cynulliad i newid geiriad eu Cynllun Iaith – er mwyn rhoi’r gorau i gyfieithu pob gair o’r Cofnod i’r Gymraeg.

Mae’r Bwrdd yn gwrthod dadl Comisiwn y Cynulliad fod un rhan yn amwys. Maen nhw’n dweud fod cymal 4.8 y Cynllun Iaith yn gwbl glir: “Cyhoeddir cofnod gair am air dwyieithog o bob Cyfarfod Llawn”.

Maen nhw hefyd yn bygwth cynnal ymchwiliad o dan Ddeddf Iaith 1993 – mae Prif Weithredwr y Bwrdd, Meirion Prys Jones, eisoes wedi anfon llythyr at Lywydd y Cynulliad yn gofyn cyfres o gwestiynau.

Dydyn nhw ddim yn credu eu bod wedi cael atebion llawn i’r cwestiynau hynny ac maen nhw wedi gofyn am atebion priodol gan y Llywydd, Dafydd Elis-Thomas, erbyn 22 Medi.

Yn ystod yr Eisteddfod y datgelodd Golwg 360 fod Comisiwn y Cynulliad – bwrdd rheoli’r corff – eisiau rhoi’r gorau i gyfieithu areithiau Saesneg i’r Gymraeg yn y Cofnod, sef Hansard Cymru.

Mae’r Bwrdd yn dweud fod Cynllun Iaith y Cynulliad yn gynllun statudol, a gafodd ei fabwysiadu gan Gomisiwn y Cynulliad a gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae disgwyl hefyd y bydd rhai o Aelodau’r Cynulliad yn herio penderfyniad y Comisiwn pan ddaw’r Cynulliad yn ôl wedi gwyliau’r haf.

Llun: Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith