Mae’r cwmni y tu ôl i brosiect i adeiladu canolfan siopa anferth yn Ynys Môn wedi rhoi’r gorau i’w cynlluniau.

Fe dderbyniodd Cyngor Sir Ynys Môn lythyr gan gwmni Ynys Môn Estates LLP yn dweud eu bod rhoi’r gorau i’w cais ar gyfer prosiect Tŷ Mawr yn Llanfairpwll.

Roedd y cwmni’n honni y byddai mwy na 1,000 o swyddi newydd yn cael eu creu gan y cynllun.

“Ergyd fawr”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Clive McGregor, bod y penderfyniad yn “ergyd fawr”.

“Fel Cyngor Sir roedden ni’n cefnogi prosiect Tŷ Mawr ar sail economaidd, yn enwedig gan fod y datblygwyr yn ffyddiog o gwblhau’r prosiect”, meddai.

“Fe fyddai’r cyngor wedi amddiffyn y penderfyniad i roi caniatâd cynllunio i’r prosiect mewn ymchwiliad cyhoeddus oedd i fod i ddigwydd ym mis Tachwedd.

“Mae’n anodd denu buddsoddiad i’r Ynys, a gydag Alwminiwm Môn yn cau, rydym yn parhau i wynebu amseroedd ansicr yn ystod caledi economaidd”

Llun: Arwydd enwog Llanfairpwll (Chris McKenna – Trwydded CCA2.5)