Mae’r dyn sydd wedi helpu i droi Caerfyrddin yn un o glybiau pêl-droed gorau Cymru wedi penderfynu gadael.

Fe fydd Mark Aizlewood yn rhoi’r gorau i fod yn hyfforddwr clwb y Waun Dew ar ôl eu helpu i ennill cwpanau a chystadlu yn Ewrop.

Dau beth sy’n cael y bai am y penderfyniad – pwysau cynyddol ei ddiddordebau busnes a’r ffaith ei fod yn byw ddwy awr o Gaerfyrddin.

Mae’r gwahanu’n gyfeillgar – mae cyn-amddiffynnwr Cymru wedi canmol Caerfyrddin am fod yn “ffantastig” tuag ato.

Fe ddywedodd Cadeirydd Caerfyrddin, Jeff Thomas, fod Aizlewood yn gadael treftadaeth “y gall fod yn falch ohoni”. Fe fyddai cefnogwyr yn siomedig iawn, meddai.

Roedd Mark Aizlewood wedi aros tan ddechrau’r tymor cyn mynd er mwyn helpu’r rheolwr, Deryn Brace, i arwyddo chwaraewyr newydd.

Fe fydd yn cadw cysylltiad trwy arwain Academi’r clwb a thrwy fod ar gael i roi cyngor.