Mae gan Gymru gyfle i ddal i frwydro am y trydydd lle yn eu grŵp yn rowndiau rhagbrofol Cwpan Pêl-droed y Byd.
Er eu bod wedi colli o 1-3 i Rwsia neithiwr, mae’r drws yn parhau’n gil agored ar ôl i’w prif wrthwynebwyr, y Ffindir, fethu â churo Liechtenstein.
Y farn gyffredinol yw bod Cymru wedi bod yn anlwcus yn Stadiwm y Mileniwm neithiwr, yn enwedig i golli o gymaint ar ôl perfformiad brwd.
Ar ôl y gêm, fe ddywedodd y rheolwr, John Toshack, fod y tîm wedi chwarae’n dda. “Fe wnaethon nhw bopeth yr oedden ni wedi gofyn amdano,” meddai.
Stori’r gêm
• Roedd Cymru wedi cadw Rwsia’n dawel yn yr hanner awr cynta’ ac wedi hanner bygwth gôl y Rwsiaid fwy nag unwaith. Ond roedd yna arwyddion o ansicrwydd yn yr amddiffyn hefyd.
• Fe ddaeth y digwyddiad allweddol ychydig cyn hanner amser, gyda chwaraewr Arsenal, Andre Arshavin, yn rhoi pas berffaith trwodd i Igor Semshov sgorio.
• Er bod Cymru wedi dod yn gyfartal yn fuan yn yr ail hanner, wrth i James Collins daro cornel Aaron Ramsey i’r rhwyd, wnaethon nhw ddim llwyddo i droi rhagor o bwysau’n goliau.
• Fe gawson nhw ail gôl trwy gic rydd gan Sergei Ignashevich cyn i amddiffyn gwan gan Gymru roi cyfle ar y diwedd i Roman Pavlyuchenko gael trydedd.
Ar yr adeg honno, roedd Cymru’n pwyso ac fe gafodd y chwaraewyr gymeradwyaeth frwd gan y dorf brin.
Lloegr trwodd
Mae Lloegr eisoes trwodd i’r rowndiau terfynol ar ôl curo Croatia o 5-1 gyda dwy gôl yr un gan Lampard a Gerrard ac un gan Wayne Rooney.
Roedd yna glec i’r Alban a Gogledd Iwerddon – does gan yr Alban ddim cyfle o gyrraedd y rowndiau terfynol ar ôl colli o 0-1 i’r Iseldiroedd a llithrodd Gogledd Iwerddon wrth golli 0-2 i Slofacia.
Llun: James Collins, sgoriwr Cymru