Mae Barack Obama’n benderfynol mai ef fydd yr Arlywydd Americanaidd ola’ sy’n gorfod dadlau tros wasanaeth iechyd i bawb.

Fe ddywedodd wrth gyfarfod arbennig o ddau dŷ’r Senedd yn Washington fod sawl Arlywydd arall wedi trio ond ei fod eisiau sicrhau mai ef fyddai’r ola’.

Roedd yr araith yn cael ei dangos ar deledu wrth i Obama ymladd tros roi yswiriant iechyd i bawb – achos sy’n cael ei ystyried yn allweddol o ran dyfodol ei lywodraeth.

“Amser cecru ar ben”

Roedd yr amser i gecru ar ben, meddai, wrth geisio perswadio rhai Gweriniaethwyr i’w gefnogi.

Y bwriad yw:

• Rhoi rhagor o ddarpariaeth i amddiffyn pobol sydd eisoes ag yswiriant iechyd
• Rhoi cyfle am yswiriant i rai sydd heb hynny ar hyn o bryd.
• Gostwng y costau i unigolion, busnesau a’r Llywodraeth.

Yn ei araith, roedd yr Arlywydd yn dadlau o blaid system lle byddai’r Llywodraeth yn gwerthu yswiriant iechyd, gan gystadlu â chwmnïau preifat … ond fe awgrymodd y byddai’n fodlon cyfaddawdu hefyd.

“Celwyddau”

Mae wedi ymosod ar “gelwyddau” gwrthwynebwyr y syniad, gan gynnwys rhai sy’n dweud y byddai yna “baneli marwolaeth” o arbenigwyr yn penderfynu y dylai rhai pobol oedrannus farw.

Fe gyfeiriodd at bobol oedd wedi diodde’ – gyda rhai ohonyn nhw’n eistedd yn y Gyngres yn gwrando arno – ac fe soniodd am gefnogaeth y Seneddwr Edward Kennedy a oedd yn gefnogwr mawr i’r achos ac a oedd yn gefnogwr mawr o wasanaeth iechyd i bawb.