Mae Plaid Cymru yn apelio am i bleidleiswyr “feddwl yn wahanol” amdani yn yr Etholiad Cyffredinol nesa’.

Fe fydd darllediad gwleidyddol newydd yn mynd i’r afael ag amheuon pleidleiswyr am y Blaid – gan gynnwys honiadau ei bod “ychydig yn eithafol” neu ar gyfer neb ond siaradwyr Cymraeg.

Ar drothwy ei chynhadledd flynyddol yn Llandudno, mae am geisio torri arfer rhai pleidleiswyr o gefnogi’r Blaid yn Etholiadau’r Cynulliad ond nid mewn Etholiad Cyffredinol ar gyfer San Steffan.

Yn ôl strategwyr y Blaid, maen nhw bellach yn cymryd yn ganiataol y bydd Llafur yn cael eu cicio allan o Downing Street ac mae eu pennaeth ymgyrchu, yr AS Adam Price, wedi galw am ymosod ar y Ceidwadwyr.

Ddoe fe wnaeth y Torïaid yn glir y byddan nhwthau’n ymosod ar Blaid Cymru am gynnal llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd – yn ôl eu llefarydd yn San Steffan, Cheryl Gillan, roedden nhw wedi torri eu haddewid ar hynny.

Yn y gynhadledd ei hun, mae disgwyl i arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, ymosod ar Lafur a’r Ceidwadwyr fel ei gilydd.

“Amser allweddol”

Dywedodd cadeirydd Plaid Cymru, John Dixon fod yn gynhadledd wedi dod ar amser allweddol:

“Mae’n bosib mai dyma ein cynhadledd ddiwethaf cyn yr Etholiad Cyffredinol – etholiad sy’n dod ar amser lle mae pobl Cymru wedi blino ar yr un hen wleidyddiaeth.”

“Mae mwy a mwy o bobl yn troi at Plaid oherwydd maen nhw’n gwybod ein bod yn falch i fod yn wahanol i’r gweddill”

“Mae pobol yn chwilio am newid, ac rydym yn gwybod mae ein dyletswydd ni yw dweud sut mae Plaid am newid hynny”