Mae adroddiadau fod llifogydd wedi arwain at farwolaeth o leiaf 29 o bobol yn Nhwrci, yn dilyn y glaw trymaf yn y wlad ers 80 o flynyddoedd.

Yn ôl gwasanaeth newyddion yr Asiantaeth Anatolian, mae 24 o bobol wedi eu lladd yn Istanbwl, a phump arall wedi marw yng nghyffiniau’r ddinas. Mae nifer o bobol ar goll yn ogystal.

Mae arbenigwyr wedi dweud wrth asiantaeth newyddion NTV yn Nhwrci, nad oedd yr ardaloedd tirwedd isel a’r priffyrdd sydd wedi eu heffeithio wedi cael eu paratoi yn ddigonol ar gyfer gwrthsefyll llifogydd.

Yn ôl papur newydd y New York Times, mae lluniau teledu yn dangos fod heddlu yn cadw llygad ar ardaloedd y llifogydd, ar ôl i ladron ddwyn o lorïau sydd wedi gorfod stopio ar y priffyrdd.

Mae rhagolygon yn dweud fod mwy o dywydd gwael yn mynd i daro gogledd orllewin Twrci ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn.