Bydd rhai o ffermwyr Cymru’n cymryd rhan mewn ras gyfnewid wahanol i gopa’r Wyddfa yfory (Dydd Iau, 10 Medi) i godi ymwybyddiaeth ar gyfer achos Cymorth Canser Macmillan.
Bydd ffermwyr o gwmni llaeth cydweithredol Calon Wen yn pasio potel o laeth o law i law wrth ei gario i ben y wyddfa yfory.
Pwrpas y ras yw codi ymwybyddiaeth ar gyfer bore coffi sy’n cael ei gynnal ar gyfe elusen ganser Macmillan yn ddiweddarach yn y mis, ac i ysgogi pobl i gynnal boreau coffi eu hunain i gasglu arian tuag at yr achos.
Ar y 25 a 26 Medi, bydd Bore Coffi Mwyaf y Byd Macmillan yn cael ei gynnal yng nghaffi’r copa – caffi uchaf y Deyrnas Unedig.
Cwmni Cydweithredol llaeth Calon Wen fydd yn cyflenwi’r llaeth ar gyfer y digwyddiad a bydd yr arian fydd yn cael ei godi yn mynd at yr elusen.
“Sialens”
Bydd y ffermwyr yn cychwyn o Lanberis am 9am ac yn anelu at gyrraedd copa’r Wyddfa rhwng 12.30 a 1pm.
Dywedodd Elen Morris o Ddinbych, un o redwyr y ras gyfnewid yfory:
“Mae un neu ddau o’r ffermwyr sy’n rhedeg yn ffit ofnadwy. Dydw i ddim yn gwneud hanner cymaint o ymarfer corff â nhw, ond dw i’n edrych ymlaen at y sialens a’r hwyl. Rydyn ni gyd yn gweld hyn fel cyfle i wneud rhywbeth cadarnhaol tuag at achos da.”