Mae Morgannwg wedi enwi carfan 13 dyn ar gyfer eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Essex yfory.

Bydd Jim Allenby yn cymryd lle Tom Maynard yn y garfan ar ôl methu’r gêm yn erbyn ei hen sir, Swydd Caerlŷr.

Mae Adam Shantry a Dean Cosker hefyd wedi eu hychwanegu i’r garfan. Fel arall mae’r garfan yr un fath a’r un gafodd gêm gyfartal yn erbyn Swydd Caerlŷr.

Dyw Morgannwg heb guro Essex yng Ngerddi Sophia ers 12 mlynedd. Ond er eu bod nhw wedi ennill dwy gêm yn unig allan o 13 yn y bencampwriaeth y tymor hwn, mae ganddyn nhw obaith o hyd i ennill dyrchafiad.

Carfan Morgannwg

Will Bragg
Gareth Rees
Mark Cosgrove
Michael Powell
James Dalrymple
Jim Allenby
Mark Wallace
James Harris
Robert Croft
Dean Cosker
Christopher Ashling
Adam Shantry
Garnett Kruger