Mae’n debygol y bydd Caster Semenya yn cael cadw’r fedal aur wnaeth hi ei hennill ym Mhencampwriaethau’r Byd ym Merlin fis diwethaf.

Roedd perfformiadau Semenya wedi gwella’n enfawr yn ystod y pythefnos cyn y pencampwriaethau ym Merlin.

Ers ei buddugoliaeth, mae ‘na gwestiynau wedi codi ynglŷn â’i rhyw, gydag amheuon ei bod hi mewn gwirionedd yn ddyn.

Fe wnaeth awdurdod athletau’r byd ofyn i’r athletwraig o Dde Affrica i gymryd profion meddygol i brofi ei rhyw.

Ond beth bynnag y canlyniad, mae disgwyl i Semenya gael cadw’r fedal.

“Mae hwn yn fater meddygol, ac nid mater o dwyllo gyda chyffuriau,” meddai Nick Davies, cyfarwyddwr cyfathrebu’r awdurdod athletau.

“Does dim diarddel awtomatig mewn achos fel yma.”