Mae Andy Murray allan o Bencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau ar ôl colli i Marin Cilic yn y bedwaredd rownd.

Fe gollodd yr Albanwr mewn tair set i’r gŵr o Groatia yn Stadiwm Arthur Ashe.

Fe wnaeth Murray gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth y llynedd, a dywedodd mai’r golled yn erbyn Cilic oedd siom fwyaf ei yrfa tenis.

“Fe wnes i chwarae yn wael, rwy’n siomedig iawn”, meddai Murray.

Roedd Andy Murray yn dioddef o anaf i’w arddwrn yn ystod yr wythnos, ond dywedodd na fyddai’n gwneud esgusodion a bod problemau gyda’i gêm.

Oherwydd y golled mae Andy Murray yn disgyn o’i safle fel ail ddetholyn y byd, gyda Rafael Nadal yn cymryd ei le.