Mae prop y Scarlets, Rhys Thomas, wedi osgoi gwaharddiad ar ôl i banel disgyblu benderfynu nad oedd o’n euog o chwarae peryglus.

Fe gafodd y prop gerdyn melyn yn y fuddugoliaeth yn erbyn Leinster ddydd Sadwrn diwethaf, am arwain gyda’i ben i mewn i ryc, gan daro Shane Horgan.

Ond mae’r panel disgyblu wedi penderfynu bod deg munud yn y cell cosb yn ddigonol a bod dim angen ei gosbi ymhellach.

Pe bai’r panel disgyblu wedi cael y chwaraewr yn euog, fe fyddai wedi wynebu gwaharddiad am o leia’ chwe wythnos.

Bydd y penderfyniad yn ryddhad mawr i Rhys Thomas, oedd yn chwarae ei gêm gystadleuol gyntaf i’r Scarlets ers symud o’r Dreigiau dros yr haf.


Disgyblaeth

Mae prif hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies, wedi dweud bod y penderfyniad yn hwb i’r garfan, ond nododd na fyddai diffyg disgyblaeth yn cael ei ganiatáu.

“Rydym ni wedi siarad gyda Rhys ac wedi’i ddisgyblu, sy’n cynnwys peidio’i ddewis ar gyfer y gêm yn erbyn Glasgow ar y penwythnos,” meddai Nigel Davies.

“Byddwn yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd disgyblaeth. Mae’r math yma o ddigwyddiad yn annerbyniol ac fe allai fod wedi methu gemau.”