Mae Joe Ledley wedi cael caniatâd i chwarae i Gymru yn erbyn Rwsia heno.

Roedd angen i’r chwaraewr canol cae gael caniatâd Jorge Sousa, dyfarnwr y gêm ragbrofol.

Fe fydd yn chwarae gyda rhwymyn ar ei fraich, ar ôl iddo dorri asgwrn yn ei arddwrn.

Gyda Ledley ar gael, mae disgwyl iddo gychwyn y gêm yng nghanol y cae gydag Aaron Ramsey a Dave Edwards.

Mae hefyd disgwyl i chwaraewr canol cae Doncaster Rovers, Brian Stock, ennill ei gap cyntaf i Gymru.

Bydd ymosodwr Wolves, Sam Vokes, yn cychwyn yn y llinell flaen gyda Craig Bellamy.

Amddiffyn

Mae John Toshack am ddewis James Collins yn yr amddiffyn, ond mae yna amheuon a fydd Danny Gabbidon yn cael cychwyn y gêm.

Mae’n debyg mai Ashley Williams fydd ynghanol yr amddiffyn gyda Chris Gunther a Sam Ricketts yn gefnwyr.

Trydydd safle

Er bod gobeithion Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd yn Ne Affrica’r flwyddyn nesaf eisoes wedi dod i ben, mae John Toshack am i’w dîm orffen y grŵp yn y drydydd safle.

Y gobaith yw y byddai hynny’n golygu y byddai Cymru yn wynebu timau haws yn y grŵp rhagbrofol nesaf ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop yn 2012.