Mae lleihau ar y nwyon tŷ gwydr sy’n dod o awyrennau yn rhan hanfodol o’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd, yn ôl comisiwn cynghori’r Llywodraeth.

Mewn llythyr at weinidogion heddiw, dywedodd y Comisiwn y dylai gwledydd cyfoethoca’r byd arwain y ffordd drwy sicrhau nad yw nwyon awyrennau ddim uwch yn 2050 nag oeddynt yn 2005.

Mae’r llythyr yn awgrymu y dylai unrhyw ymdrech i leihau nwyon o awyrennau fod yn un “uchelgeisiol”.

Mae’n awgrymu’r nod o dorri’n ôl 5% ar nwyon tŷ gwydr o awyrennau rhwng 2013 a 2020, yn unol â chynlluniau cyfredol yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd David Kennedy, Prif Weithredwr y comisiwn, na fyddai targed o’r fath yn gorfodi pobol i hedfan llai.

Ond fe fyddai’r gorfodi’r diwydiant awyrennau i fuddsoddi mewn ffyrdd newydd o dorri’n ôl ar eu nwyon tŷ gwydr.