Mae Plaid Cymru yn paratoi byddin o aelodau ar lawr gwlad cyn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.

Mae cynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn cychwyn yn Llandudno yfory, dydd Iau, 10 Medi.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, eu bod wedi dechrau paratoi ar gyfer etholiadau’r dyfodol drwy hyfforddi aelodau llawr gwlad i ledaenu neges y blaid.

Bydd adran ddatblygu newydd Plaid Cymru yn mynd i gynorthwyo’r blaid i estyn allan at bob cartref yn y wlad, meddai.

“Rydyn ni’n gwybod o’r etholiadau diweddar fod cefnogaeth i ni yn cynyddu y tu allan i’r ardaloedd sy’n cael eu cynrychioli gan y blaid yn draddodiadol,” meddai Ieuan Wyn Jones.

“Mae Plaid yn credu mewn gwleidyddiaeth gyfranogol ar lawr gwlad, ond rydyn ni am fod hyd yn oed yn fwy effeithiol wrth drefnu ar y lefel lleol, ac wrth wrando ar beth sydd gan bobol eraill i’w ddweud.

“Mae nifer o bobol yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu cymryd yn ganiataol yn rhy hir. Ond dwi’n addo y bydd Plaid yn gwneud yn siŵr y bydd anghenion ein cymunedau yn cael eu clywed ar bob lefel o lywodraeth.”