Mae dynes o Landybie wedi cael llythyr gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn mynnu tâl o dair ceiniog, ar ôl iddi dderbyn gormod o fudd-dal.
Yn ôl y ddynes, sydd ddim am gael ei henwi, mae’r llythyr yn “wastraff ofnadwy o arian”.
Dywedodd wrth bapur newydd y South Wales Guardian ei bod yn “methu credu” pan welodd y cyfanswm yr oedd y cyngor yn gofyn iddi dalu.
“Pan ydach chi’n ystyried fod stamp dosbarth cyntaf yn costio 39c, faint ma’ hi’n gostio i’r cyngor sir anfon y llythyrau yma?” meddai.
“Mi fyddai hi wedi bod yn fwy synhwyrol i ychwanegu tair ceiniog i’r anfoneb nesaf.”
Yn ôl y South Wales Guardian, mae swyddog o Gyngor Sir Caerfyrddin wedi dweud fod yr achos yma wedi digwydd o ganlyniad i broblem dechnegol.