Mae’r Ceidwadwyr yng Nghaerdydd wedi tynnu sylw eto at faint mae gweinidogion y Senedd yn ei wario ar geir preifat.

Dywedodd arweinydd yr wrthblaid Nick Bourne bod gwaith ymchwil ei blaid yn dangos bod faint o bres sy’n cael ei wario ar gyflogau gyrwyr Llywodraeth y Cynulliad wedi codi 50% y llynedd.

Mae’r ffigyrau yn dangos bod y llywodraeth wedi gwario £216,461 ar gyflogau gyrwyr yn 2008/09 o’i gymharu â £144,190 yn 2007/08.

Ers 2004 mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gwario mwy na £716,000 ar gyflogau gyrwyr, meddai’r Ceidwadwyr.

Yn gynharach eleni datgelodd y Ceidwadwyr bod gweinidogion wedi gyrru 214,376 o filltiroedd yn 2008, bron i ddwbl cymaint â’r flwyddyn gynt.

“All gweinidogion ddim disgwyl i’r cyhoedd ddilyn eu cyngor am ddefnyddio llai o’u ceir eu hunain tra bod costau tanwydd a chyflogau gyrwyr yn codi,” meddai Nick Bourne.

“Mae Llafur a Plaid Cymru yn gyrru Cymru ar y ffodd i ddistryw ond o leia’ maen nhw’n cael teithio mewn limo ar draul y trethdalwyr.”