Mae cynghorydd i’r blaid Lafur yng Nghaerffili yn ystyried cymryd camau cyfreithiol, wedi i ddeiseb ddadleuol gael ei roi yn ei enw ar wefan Rhif 10 Stryd Downing.
Mae’r Cynghorydd Dave Rees yn gwadu taw fe oedd yn gyfrifol am y ddeiseb sy’n galw am erlyn unrhyw un sy’n ymgyrchu i ddiddymu’r Deyrnas Unedig, ar sail Deddf Brad 1531.
Yn ôl y ddeiseb:
‘Mae’r symudiad cenedlaetholgar yng Nghymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn gwrthwynebu statws cyfansoddiadol Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn llwyr.’
‘Mae eu galwad am annibyniaeth yn cynrychioli ymosodiad uniongyrchol ar sefydlogrwydd a sofraniaeth y wladwriaeth, a dylai eu gweithredoedd gael eu hystyried i fod yn weithred o fradwriaeth, a ddylai gael eu herlyn dan Ddeddf Brad 1531.’
Mae’r ddeiseb yn gorffen gan ddweud ei fod wedi ei gyflwyno gan Dave Rees o True Wales.
Sefydliad sy’n gwrthwynebu annibyniaeth i Gymru yw True Wales.
Mae Dave Rees yn gwadu taw fe oedd yn gyfrifol am y ddeiseb. Dywedodd wrth Golwg360 ei fod wedi cysylltu efo’r heddlu, a’i fod yn ystyried cymryd camau cyfreithiol, os bydd y person oedd yn gyfrifol yn cael ei ddarganfod.
Dywedodd fod cynnwys y ddeiseb yn groes i’w egwyddorion, a’i fod ef yn sefyll am ryddid barn a democratiaeth.
“Os ddechreuwn ni wneud pethau fel yna” meddai, “i le rydyn ni’n mynd?”