Fe gerddodd dyn 37 blwydd oed i mewn i westy yn Chilton, Wisconsin yn disgwyl bach o ramant â’i gariad, clywodd llys.

Yn hytrach, cafodd ei glymu i wely gan ei gariad a thair merch arall, yn cynnwys ei gyn wraig, yn ôl yr erlyniad.

Fe aeth y merched ati i ludo ei bidyn i’w stumog yn yr ymdrech i ddial arno, wedi iddo dwyllo ar ei gariad.

Mae barnwr yn yr Unol Daleithiau wedi dweud heddiw fod digon o dystiolaeth ganddynt i warantu achos yn erbyn y merched.

Mae’r pedair yn wynebu cyhuddiadau o garcharu ar gam ac un ohonynt yn wynebu cyhuddiad o ymosod yn rhywiol.

(Llun: Chilton, Wisconsin – Royalbroil – Cytundeb Rhannu a Priodoli 2.5)