Mae’r ddogfen gyntaf sy’n amlinellu sut y byddai Alban annibynnol yn cynnal materion tramor wedi cael ei ddatgelu gan lywodraeth yr SNP.

Mae’r adroddiad yn dweud y byddai gan yr Alban le cryfach yn yr Undeb Ewropeaidd gyda mwy o Aelodau Ewropeaidd.

Ond does dim sôn am y posibilrwydd o orfod gwneud cais eto am fynediad i’r Undeb Ewropeaidd.

Mewn seremoni ym Mrwsel, dywedodd y gweinidog materion allanol, Mike Russell, y gallai pobol yr Alban gael dinasyddiaeth “ddeuol” gyda gweddill y DU.

Mae’r ddogfen hefyd yn honni y gallai’r Alban annibynnol rannu lysgenadaethau a chyfleusterau eraill y DU.

Roedd Mike Russell yn derbyn y byddai cael Swyddfa Dramor ar wahân i’r Alban, a lleoli swyddogion yr Alban ym Mrwsel yn cynyddu biwrocratiaeth.

Salmond eisiau swydd arall?

Dywedodd Mike Russell, fel rhan o genedl fechan, byddai Albanwyr yn fwy tebygol i sicrhau rolau blaenllaw rhyngwladol, gan gynnwys ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

Mae Llafur wedi targedu’r datganiad, gan ddweud ei fod o’n dangos bod Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn gobeithio am swydd o’r fath ar ôl ymddeol o wleidyddiaeth yr Alban.

“Mae ego Mr Salmond mor fawr fe allech chi ddychmygu bod yr adran wedi ei ysgrifennu ganddo fo yn y gobaith y byddai modd iddo gymryd y swydd,” meddai’r Arglwydd Foulkes o’r Blaid Lafur.

“Mae’n eironig bod dyn sydd drwy’i fywyd wedi bod eisiau chwalu’r Deyrnas Unedig nawr eisiau bod yn bennaeth ar y Cenhedloedd Unedig.”