Mae’r cefnogwr pêl-droed, Michael Shields, gafodd ei garcharu am 15 mlynedd ym Mwlgaria am geisio llofruddio gweithiwr mewn bar, wedi cael ei ryddhau.

Cafodd Michael Shields, 22, ei gael yn euog ar ôl aflonyddwch yn dilyn buddugoliaeth Lerpwl yng Nghwpan Ewrop yn Nhwrci yn 2005.

Cafodd ei drosglwyddo i garchar ym Mhrydain yn ddiweddarach. Mae ei bardwn yn dilyn ymgyrch gan ei deulu, aelodau seneddol, clerigwyr, a chwaraewr o glwb Lerpwl, sy’n credu ei fod o’n ddi-fai.

Dywedodd ei gyfreithiwr, John Wheate, bod y cefnogwr ar ben ei ddigon pan glywodd y newyddion.

Cafodd ei deulu wybod am y penderfyniad mewn galwad ffôn wrth y Gweinidog Cyfiawnder, Jack Straw.

“Fe alla i gadarnhau ei fod o wedi cael pardwn,” meddai John Wheate.

“Doedd o methu credu’r peth i ddechrau ar ôl yr holl flynyddoedd o siom. Ond nawr mae e’ a’i deulu ar ben eu digon.”

Roedd Jack Straw wedi dweud na fyddai Michael Shields yn cael pardwn ar Orffennaf 2.

Ond yn ystod cyfarfod gyda’i rieni ar Awst 28, daeth tystiolaeth newydd i’r amlwg wnaeth ei argyhoeddi bod Michael Shields yn ddieuog, meddai mewn datganiad.

Mae wedi argymell i’r Frenhines y dylai Michael Shields gael pardwn.