Mae Llafur wedi eu “parlysu” gan y teimlad eu bod nhw am golli’r etholiad nesaf, yn ôl yr aelod seneddol mainc ôl dylanwadol, John Cruddas.

Gydag wythnosau yn unig tan gynhadledd y blaid, dywedodd y gallai’r colledion yn yr etholiad nesaf fod yn waeth pe na bai Llafur yn rhoi’r gorau i “dderbyn” eu bod nhw am golli’n wael.

“Beth mae Llafur yn sefyll amdano bellach?” gofynnodd yr AS dros Dagenham.

“Mae yna nifer o gyhoeddiadau a mentrau, ond dim nod na phwrpas – ac felly, does dim achos dros gael ein hail-ethol.”

Mewn araith i’r grŵp pwyso, Compass, neithiwr, dywedodd ei fod o’n rhwystredig nad yw Llafur yn ymosod ar y Torïaid.

“Pam nad ydan ni’n medru eu cyffwrdd nhw? Rydan ni’n fud.

“Fe fyddwn i’n awgrymu ei fod o oherwydd ein bod ni wedi colli ein hiaith, ein hempathi, ein haelioni.”

Dywedodd mai “drwy fynd yn ôl at ein traddodiadau, ein hiaith a’n radicaliaeth,” fydden nhw’n maeddu’r Torïaid.