Mae’r farchnad waith yn gwella am y tro cyntaf ers 17 mis, yn ôl adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi heddiw.

Yn ôl adroddiad y Conffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth, mae cynnydd bychan wedi digwydd ym mis Awst yn y nifer o bobol a benodwyd i swyddi llawn amser a dros dro.

Er bod nifer y swyddi sydd ar gael yn parhau i ostwng, roedd y gostyngiad yn arafach nac ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Hefyd, er bod cyfraddau cyflog wedi parhau i ddisgyn yn ystod y mis, roedd y gostyngiad yn arafach nac ar unrhyw adeg yn ystod y 10 mis diwethaf.

Yn ôl Kevin Green, prif weithredwr y Conffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth, mae hi’n ymddangos fod cyflogwyr yn dod yn fwy hyderus, wrth iddyn nhw gyflogi mwy o bobol.

Ond rhybuddiodd y byddai “diweithdra yn parhau mewn i 2010,” a galwodd ar y llywodraeth, a chyflogwyr a busnesau recriwtio, i weithio “yn fwy effeithiol efo’i gilydd” er mwyn “diogelu adferiad y farchnad waith”.