Mae heddlu sy’n ymchwilio i achos yr herwgipiwr honedig, Phillip Garrido, wedi darganfod asgwrn a allai fod yn ddynol, yn iard y tŷ sydd drws nesaf i’w gartref.

Mae Phillip Garrido, 58, a’i wraig Nancy Garrido, 54, wedi eu cyhuddo o herwgipio Jaycee Dugard, a’i chadw yn gaeth am 18 mlynedd.

Mae honiadau fod Phillip Garrido wedi gorfodi Jaycee Dugard i gael dau o blant gydag e’.

Yn ôl llefarydd ar ran Adran Siryf California, roedd Phillip Garrido wedi bod yn edrych ar ôl y tŷ drws nesaf i’w gartref am gyfnod yn 2006, gan wersylla yn yr iard o dro i dro.

Dywedodd y llefarydd fod arbenigwr fforensig wedi dweud ei bod hi’n debygol mai asgwrn dynol sydd wedi ei ddarganfod, ond nad oedd hi’n anarferol darganfod gweddillion Americaniaid Brodorol yn yr ardal chwaith.

Bydd profion DNA pellach yn cael eu cynnal ar yr asgwrn.