Mae arweinydd y Torïaid wedi addo torri costau San Steffan drwy leihau cyflogau, manteision a chostau, pe bai’r Ceidwadwyr yn ennill grym.

Mewn araith allweddol ddoe, datgelodd gynllun i dorri nifer yr aelodau seneddol 10%, a lleihau cyflogau gweinidogaethol ar ôl yr etholiad 5%.

Byddai’r cynllun i leihau cyflogau gweinidogion yn golygu lleihad o £6,500 ar gyflog presennol blynyddol Y Prif Weinidog o £194,250.

Hefyd, byddai gostyngiad o10% mewn aelodau seneddol yn arbed £15.5miliwn o bunnau’r flwyddyn.

“Oes o galedi”

Dywedodd hefyd ei fod yn “hanfodol” lleihau defnydd ceir aelodau seneddol er mwyn torri costau.

Er mai dim ond cyfraniad bychan iawn yn nhermau gwariant cyhoeddus fyddai torri’r costau, mynnodd bod rhaid i wleidyddion osod esiampl i wlad sy’n wynebu “oes o galedi”.

Dywedodd David Cameron wrth gynulleidfa yn Bedford y byddai, petai’n cael ei ethol yn “delio â’r brif broblem sydd wrth wraidd calon gwleidyddiaeth Brydeinig heddiw sef benthyca gormod o arian”.