Mae deuawd cerddoriaeth canu gwlad fwyaf poblogaidd Cymru yn dathlu 20 mlynedd o berfformio yn ddiweddarach yn y mis.

Ers sefydlu deuawd John ac Alun, mae’r ddau wedi recordio 8 albwm, wedi perfformio mewn cannoedd o gyngherddau byw lleol a chenedlaethol yn ogystal â chefnogi amryw o elusennau ledled y wlad.

“Er ein bod yn dathlu 20 mlynedd, dim ond blwyddyn arall ydy o mewn gwirionedd – yr hyn sy’n anhygoel go iawn ydi ein bod ni’n dal i fynd,” meddai Alun.

“Gwefr”

“Mae’r wefr o fynd allan i ganu a chael criw da tu ôl ni’n parhau,” meddai John y prif ganwr.

Dywedodd mai un o’i uchafbwyntiau yn ystod yr 20 mlynedd oedd ymweld â chartref canu gwlad yn Nashville, Tennesee a pherfformio yn Awditoriwm enwog y Ryman.

Daeth un o brif uchafbwyntiau Alun ar daith canu i Amsterdam yn nyddiau cynnar y grŵp:

“Roedd John a fi’n teithio ar hyd y draffordd ac wrth droi congl dyma weld rhes o naw bys yn ein dilyn i Amsterdam – roedd pawb yn dod i’n cefnogi ni,” meddai.

“Wedi cwblhau noson o adloniant ar y fferi, dyma ganu Hen Wlad Fy Nhadau ac roedd pobl o bob cwr o Ewrop yn cyd-ganu’r anthem ac yn ein cefnogi. Roedd yn brofiad eithaf arbennig,” ychwanegodd Alun.

Wrth ystyried yr hyn sy’n unigryw am y bartneriaeth, dywedodd John fod Dafydd Iwan wedi dweud wrtho unwaith mae “gan John oedd y llais a’r ddawn gitâr gan Alun.”

“Rydan ni’n dau yn ychwanegu rhywbeth gwahanol – dwi’n meddwl mai dyna sut mae’r bartneriaeth yn gweithio” meddai John.

Ond, dywedodd Alun mai’r hyn sy’n ei ysgogi ef yw’r “holl hwyl” y mae’n cael gyda John ar lwyfannau ledled y wlad.

Dyfodol y sîn gerdd fyw yng Nghymru?

Gobaith John ac Alun yn y dyfodol yw “cario mlaen i wneud yr hyn ‘dan ni’n ei wneud yn barod.”

Ond, mae Alun yn pryderu fod y sîn gerdd fyw yng Nghymru wedi newid dros y blynyddoedd.

“Mae llawer llai o gyfleoedd i ganu’n fyw ac eithrio sioeau ac eisteddfodau heddiw – a hynny oherwydd rheolau trwydded a gorfod cyflogi pobl wrth y drysau,” meddai

Dywedodd fod hyn yn “biti” gan eu bod wedi gorfod stopio canu mewn rhai llefydd a oedd yn hen gyfarwydd iddynt.

Cefnogwyr? Ffrindiau!

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi ffyddlondeb ein cefnogwyr a’n cynulleidfa’n ofnadwy. Dim ots lle rydan ni’n dau yng Nghymru, mae’n braf gallu mwynhau paned gyda Chymry Cymraeg sy’n ein cefnogi ac sy’n ffrindiau da i ni bellach” meddai Alun.

I nodi 20 mlynedd, bydd John ac Alun yn canu mewn cyngerdd yn y Pafiliwn Cenedlaethol ym Mhontrhydfendigaid ar 25 Medi. Y cyngerdd hwn fydd y diweddaraf yng nghyfres adloniant newydd ‘Noson yng Nghwmni . .’ yn y pafiliwn.

“Does dim amheuaeth fod John ac Alun wedi bod ar flaen y gad o ran y sîn ganu gwlad yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae’r hyn maen nhw wedi ei gyflawni yn nhermau perfformiadau byw, gwerthiant recordiau a phoblogrwydd cyffredinol yn gwbl anhygoe,” meddai Owain Schiavone, Rheolwr y Pafiliwn.

Yn y cyfamser, mae’r ddau yn gweithio ar albwm newydd. Fe fydd John ac Alun yn dychwelyd i’r stiwdio yn 2010 i’w recordio.