Mae dynes o Sudan a gafodd ei charcharu am wisgo trowsus yn gyhoeddus wedi cael ei rhyddhau ddoe, ar ôl dim ond diwrnod yn y carchar.

Fe gafodd y newyddiadurwraig, Lubna Hussein ei dedfrydu i fis yn y carchar ddydd Llun diwethaf. Hefyd, cafodd ddirwy o £160 o bunnau am wisgo’n “anweddus” gan ei bod wedi torri rheolau gwisg Islamaidd.

Fe wrthododd y newyddiadurwraig gydnabod y ddedfryd a thalu’r ddirwy. Er gwaethaf hyn, fe wnaeth ei chefnogwyr dalu’r ddirwy i’w rhyddhau ar ôl dim ond diwrnod yn y carchar.

Mae’n honni fod undeb i newyddiadurwyr wedi talu’r ddirwy drosti.

Dywedodd fod y llywodraeth yn “anesmwyth” ynglŷn â’i phresenoldeb yn y carchar gan y byddai’n adrodd ar gyflwr y carchar.

Pan gafodd Lubna Hussein ei harestio yn y lle cynaf, roedd y newyddiadurwraig yn gweithio i adran gyfryngau Cenhadaeth y Cenhedloedd Unedig yn Sudan.