Bydd Barack Obama yn cyflwyno araith fawr gerbron cyngres y wlad heddiw ar ddiwygiad gofal iechyd yn America.
Bydd yr araith, yn ôl yr arlywydd, yn cynnig “eglurder” am y ffordd y mae e’n credu y dylid bwrw ati i wella gofal iechyd yn America.
Mae’n debyg mai un o brif amcanion yr Arlywydd yw son am y dewis o gael cynllun yswiriant cyhoeddus.
Syniadau newydd
Mae wedi datgan mewn cyfweliad wrth wasanaeth newyddion ABC News eisoes ei fod yn agored i syniadau newydd ac na fydd yn “anhyblyg ac ideolegol” ei feddwl.
Yn ôl yr arlywydd, bydd ei araith yn gyfle i bobl America ddeall beth y mae’n ei yn gynnig yn nhermau diwygiad.
Hefyd, bydd yn gyfle i’r Democratiaid a’r Gweriniaethwyr ddeall ei fod yn “agored i syniadau newydd”, meddai.
Disgwylir i aelodau’r gyngres frwydro tros fanylion y diwygiadau ac mae’n debygol y bydd anghytuno.
Araith Brin
Er fod Barack Obama wedi cyflwyno nifer o areithiau ar sefyllfa gofal iechyd, ei araith heddiw fydd y pwysicaf, ac mae areithiau o’r fath yn rhai prin.
Dim ond 47 o weithiau mae arlywyddion America erioed wedi cyflwyno areithiau ar ddigwyddiadau arbennig i sesiynau ar y cyd o’r gyngres.
Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos fod oddeutu 46m o Americanwyr heb yswiriant iechyd.
Mae angen i’r ddwy siambr gytuno cyn y gall y mesur ddod yn gyfraith.