Mae rheolwr pêl-droed Cymru wedi ymosod ar gyn-chwaraewyr sy’n beirniadu ei dîm cyn y gêm Cwpan Byd yn erbyn Rwsia.

Doedd mawrion fel Ian Rush a Neville Southall ddim wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol unrhyw gystadleuaeth, meddai John Toshack, er eu bod wedi cael llwyddiant mawr gyda’u clybiau.

Roedd ei dîm ifanc yn gwneud eu gorau, meddai, gan gydnabod eu bod yn wynebu tasg anferth yng Nghaerdydd heno. Dim ond 10,000 o docynnau sydd wedi eu gwerthu ymlaen llaw wrth i Gymru frwydro am y trydydd lle yn eu grŵp.

Aros am Ledley

Fe fydd Toshack heb nifer o chwaraewyr pwysig a dim ond y bore yma y caiff wybod a yw un arall, y chwaraewr canol cae, Joe Ledley, ar gael.

Fe fydd rhaid i ddyfarnwr y gêm gytuno fod Ledley’n gallu chwarae er gwaetha’ rhwymyn ar ei fraich.
Fe fydd Ledley’n bwysicach fyth oherwydd y chwaraewyr canol cae sydd yn eisiau – Jason Koumas, sydd newydd ymddeol o bêl-droed rhyngwladol, Simon Davies sydd wedi’i anafu a Jack Collison sydd yn angladd ei dad.

Mae’r blaenwr ifanc, Simon Church, yn angladd ei dad yntau ac mae’r cefnwr, Gareth Bale, yn parhau wedi ei anafu hefyd.
Un cysur i John Toshack yw bod ei gapten Craig Bellamy ar gael a’i fod yn dweud ei fod yr un mor frwd ag erioed i chwarae tros Gymru.

Beth ddywedodd Toshack

“R’yn ni’n gwneud ein gorau, o’r gwaelod lan i’r chwaraewyr hŷn. R’yn ni’n ceisio gwneud pethau yn y ffordd iawn i greu sefyllfa lle bydd gyda ni yn y diwedd sgwad sy’n ddigon cry’ i gyrraedd rowndiau terfynol.

“Ond mae’n anodd pan mae gyda chi dimau wedi eu dethol a ninnau wastad yn cael dau dîm anodd iawn yn ein grŵp a dim ond un yn cael mynd trwodd ar unwaith.

“Dw i’n deall pam fod pobol yn dweud bod rhaid i ni wella, bod angen i’r bechgyn ifanc gyflawni. Ond wnaeth y cyn-chwaraewyr sy’n dweud hyn ddim cyflawni eu hunain – Rush, Southall, Ratcliffe – wnaethon nhwthau ddim cyrraedd rowndiau terfynol chwaith.”