Mae newyddiadurwr Prydeinig a gafodd ei herwgipio yn Afghanistan wedi cael ei ryddhau gan filwyr NATO.

Ond mae’n ymddangos fod un milwr Prydeinig a chyfieithydd lleol wedi eu lladd yn ystod y digwyddiad.

Cafodd Stephen Farrell, 46, newyddiadurwr i’r New York Times, ei herwgipio ddydd Sadwrn ynghyd â’i gyfieithydd Sultan Mohammad – roedd yn ymchwilioi sgil-effeithiau streic awyr NATO yng ngogledd talaith Kunduz.

Mae’n debyg fod y newyddiadurwr wedi cael ei achub mewn cyrch gan luoedd NATO, er bod y cyfieithydd wedi’i ladd gan filwyr Taliban yn ystod y digwyddiad.

Mewn galwad ffôn i’w gydweithwyr yn Efrog Newydd, dywedodd Stephen Farrell ei fod wedi’i “dynnu allan” mewn cyrch “gyda llawer o filwyr” mewn brwydr arfog.

Mae rhai adroddiadau yn awgrymu fod milwyr arbennig wedi chwarae rhan yn y cyrch ond mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwrthod cadarnhau hynny.

Llun: Llun yn y New York Times yn dangos eu gohebydd yn dod yn rhydd