Mae £7.6m yn cael ei fuddsoddi yng Nghymoedd De Cymru i gwblhau rhwydwaith beicio a cherdded.
Fe fydd yr arian yn cael ei wario ar ychwanegu 100 milltir arall at Rwydwaith Beicio’r Cymoedd ac yn gwella 250 o filltiroedd o lwybrau sydd yno eisoes.
Dyma’r cam ola’ mewn cynllun gwerth £16 miliwn a fydd yn rhoi un o’r llwybrau o fewn dwy filltir i 636,000 o bobol.
Y nod, yn ôl y Llywodraeth yw cael trigolion lleol i ddefnyddio’r llwybrau yn lle’r car, gan dorri ar dagfeydd, lleihau’r carbon sy’n mynd i’r awyr a hybu iechyd.
Barn y gweinidogion
“Rydym wedi ymrwymo i annog mwy o feicio a cherdded ledled Cymru, helpu pobol i leihau siwrneiau mewn ceir a darparu cyfleoedd iach a chost-effeithiol ar gyfer cyflogaeth a hyfforddiant”, meddai Ieuan Wyn Jones, y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
“Bydd y prosiect hwn yn dod â manteision enfawr o ran iechyd a lles pobol Cymoedd y De, ac i amgylchedd yr ardal.”
Dywedodd Leighton Andrews, y Dirprwy Weinidog dros Adfywio, y byddai’r prosiect hefyd yn cefnogi gwaith Partneriaeth y Cymoedd i ddatblygu, ehangu a gwella potensial twristiaeth unigryw’r Cymoedd.
“Mae’r pwyslais ar hyrwyddo amgylchedd naturiol a threftadaeth ddiwylliannol a chanolbwyntio ar weithgareddau awyr agored fel cerdded a beicio,” meddai. “Mae datblygu rhwydwaith o lwybrau troed a llwybrau beicio yn elfen allweddol.”