Mae Aelod Seneddol wedi beirniadu Llywodraeth y Cynulliad am “orfodi” Cyngor Sir Conwy i ddarparu 9,000 o gartrefi newydd.

Mae David Jones wedi dweud fod y cynnydd yn ddiangen ac nad yw pobol leol o blaid – mae angen defnyddio tai gwag, meddai, a rhoi’r gorau i roi blaenoriaeth i bobol ddieithr sydd heb gysylltiad ag ardal.

“Pe bai’r Llywodraeth o ddifri eisiau lleihau’r pwysau ar dai yn yr ardal, fe fydden nhw’n rhoi’r gorau i’r polisi gwirion o fynnu fod cynghorau Cymru yn derbyn ceisiadau am dai gan bawb sy’n dod yma,” meddai.

“Canlyniad y polisi hwnnw yw mewnlifiad mawr o bobol, a rhai gyda phroblemau cymdeithasol difrifol, sy’n mynd o flaen pobol leol ar y rhestr dai.”

Mewn datganiad ar y cyd gydag arweinydd y Ceidwadwyr ar y Cyngor, fe ddywedodd AS Gorllewin Clwyd fod y Llywodraeth yn ceisio gorfodi Conwy i godi’r tai gan ddinistrio tir glas a chaeau.

“Newid cymeriad”

“Mae yna’n agos i 2,000 o gartrefi gwag yng Nghonwy, ac mae’n edrych yn debyg bod Llywodraeth y Cynulliad yn anwybyddu’r stoc tai sydd ar gael.

“Fe fyddai cynllun y Llywodraeth yn newid cymeriad yr ardal am byth, gyda nifer o gaeau yn mynd i golli. Dydyn nhw ddim wedi dangos bod angen 9,000 o dai ychwanegol”

Mae’r Ceidwadwyr yn dweud y dylai Llywodraeth y Cynulliad adael awdurdodau lleol i benderfynu ar eu blaenoriaethau tai eu hunain.

Lluin: (Noel Walley – Trwydded CCA3.0)