Mae Undeb yr Annibynwyr wedi croesawu galwad Cymdeithas Feddygol Prydain am waharddiad llwyr ar hysbysebion alcohol.

Maen nhw hefyd wedi cefnogi safiad y BMA yn erbyn bargeinion sy’n cynnig diodydd rhad ac yn annog pobol i yfed.

Ddoe, roedd y Gymdeithas wedi galw am wahardd hysbysebion alcohol yn gyfangwbl, gan gynnwys rhai mewn digwyddiadau chwaraeon a cherddorol.

‘Croesawu’

“Camddefnyddio alcohol yw un o broblemau mwyaf cymdeithas – yn enwedig ymhlith pobl ifanc,” meddai’r Parchg Beti-Wyn James, cadeirydd Adran Teulu’r Undeb.

“Mae’r gost ariannol i’r Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn anferth – heb son am y dioddefaint personol i unigolion a theuluoedd.”

“Rydym yn croesawu’r alwad yma gan y BMA yn fawr. Mae sawl gwlad arall eisoes wedi cyflwyno gwaharddiad ar hysbysebu alcohol.”

Mae’r Annibynwyr yn dweud y dylai gwaharddiad fynd law yn llaw gyda mesurau eraill i wahardd siopau rhag gwerthu diodydd rhad ac addysgu pobol ifanc am beryglon gor-yfed.