Mae bron 2,000 o bobol yn marw o drawiad y galon yng Nghymru bob blwyddyn oherwydd eu bod nhw’n ei gadael hi’n rhy hir cyn gofyn am help.

Yn ôl adroddiad gan Sefydliad Prydeinig y Galon, mae un o bob tri yn oedi gormod cyn galw’r gwasanaethau brys. Mae’r ffigurau wedi eu cyhoeddi ar ddiwrnod ymgyrchu i dynnu sylw at yr angen i alw 999.

Mae’r Sefydliad yn dweud nad yw un rhan o dair o ferched ddim yn gwybod beth yw symptomau trawiad ar y galon.

Mae’r ystadegau’n dangos hefyd na fyddai 35% ohonyn nhw ddim yn galw 999 pe baen nhw’n cael poenau anarferol yn eu brest – oherwydd eu hofn o greu embaras os nad oedd y broblem yn ddifrifol.

Mae’r ffigurau’n dangos y byddai menywod ar gyfartaledd yn aros 24 munud yn fwy na dynion cyn galw’r gwasanaethau brys ar ôl profi symptomau trawiad.

Bob blwyddyn, yn ôl y Sefydliad, mae tua 5,400 o bobol yn marw o drawiad ar y galon yng Nghymru bob blwyddyn – 2,974 o ddynion a 2,422 o fenywod.

Adnabod symptomau

“Mae pob eiliad yn cyfri pan ydych yn cael trawiad ar y galon, ac mae galw 999 yn syth wedi’r arwyddion cyntaf yn golygu eich bod yn fwy tebygol o fyw”, meddai Dr Mike Knapton o Sefydliad Prydeinig y Galon.

“Mae symptomau trawiadau yn effeithio ar bobol mewn gwahanol ffyrdd, ac felly mae’n bwysig i fenywod a dynion ddod yn gyfarwydd â’r symptomau hynny”

“Mae menywod fel arfer yn dioddef o symptomau anarferol fel cur yn y frest, neu boen yn y frest sy’n lledaenu i’r cefn neu’r stumog neu yn teimlo’n benysgafn,” ychwanegodd.

“Does dim angen teimlo embaras o fod yn anghywir- mae achub bywyd yn fwy pwysig nag arbed embaras”

Llun: Ymgyrch 999