Roedd bom a gafwyd yn Ne Armagh yng Ngogledd Iwerddon yn un o’r rhai mwya’ i gael eu gosod yno ers blynyddoedd.

Yn ôl pennaeth yr heddlu lleol, roedd wedi ei thargedu ar blismyn ond fe fyddai wedi chwalu tai yn yr ardal ac wedi lladd llawer o bobol gyffredin hefyd.

Yn y diwedd, fe gafodd y bom ei dadgysylltu’n llwyddiannus ond roedd wedi cymryd dyddiau i ddod o hyd iddi ar ôl i bapur newydd lleol gael rhybudd “annelwig” tros y ffôn.

Erbyn hyn, fe ddaeth yn glir fod pobol wedi eu symud o’u tai yn ardal Forkhill ger Newry ddydd Sadwrn ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i’r ddyfais a oedd yn cynnwys 600 pwys o wrtaith.

Roedd gwifren i’w ffrwydro yn croesi’r ffin i Weriniaeth Iwerddon gerllaw ac, yn ôl rhai adroddiadau, roedd hi’n fwy na’r bom a laddodd 29 o bobol yn Omagh.

“Anghyfrifol”

“Roedd y weithred yn anghyfrifol a pheryglus iawn,” meddai’r Uwch Arolygydd Sam Cordner o Newry. “Efallai mai heddlu oedd y targed ond doedden nhw ddim yn poeni pwy oedd yn cael eu lladd neu eu hanafu.”

Mae’r bai wedi ei roi ar grwpiau bach gweriniaethol sy’n gwrthwynebu’r broses heddwch ond fe gawson nhw eu condemnio gan wleidyddion y prif bleidiau i gyd.

“Dw i’n herio’r bobol a osododd y bom yma yn y gymuned i ddod ymlaen ac egluro pam eu bod nhw wedi gwneud hynny,” meddai Aelod Seneddol Sinn Fein tros Newry ac Armagh, Conor Murphy. “Sut mae hyn yn helpu’r ymdrech am ryddid i Iwerddon?”

Llun: Sam Cordner (Gwifren PA)