Mae’r argyfwng economaidd wedi rhoi hwb i dwristiaeth yng Nghymru, gyda mwyafrif mawr o fusnesau’n dweud fod yr haf yma yn well, neu gystal, â’r llynedd.

Y teimlad yw bod mwy o bobol wedi penderfynu aros gartre’ a chymryd eu gwyliau yng ngwledydd Prydain – gyda busnesau gwersylla a charafanio yn gwneud yn well na neb.

Fe wnaeth Croeso Cymru – adain dwristiaeth y Llywodraeth – arolwg o 200 o fusnesau yn union wedi Gŵyl Banc Awst a chael tystiolaeth fod bron bedwar busnes ym mhob deg wedi cael haf gwell nag yn 2008.

Tymor yr Haf 2009 – rhwng Mehefin ac Awst

Gwell 39%
Cystal 42%
Gwaeth 19%

O ran incwm hefyd, roedd 35% o’r busnesau wedi gwneud yn well a 45% wedi gwneud cystal.

Ymhlith y manylion eraill, roedd yna deimlad fod pobol yn gwario llai ar fwyd a diod a bod rhagor yn ei gadael hi tan y funud ola’ cyn bwcio lle.

Ansicrwydd

O ganlyniad, meddai Julian Burrell, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, mae yna ansicrwydd ynglŷn â thymor yr hydref ond roedd yn ffyddiog y byddai hwnnw hefyd yn dda.

Ymateb y Llywodraeth

“Dw i wrth fy modd bod y ffigurau hyn yn dangos i’r haf fod yn llwyddiant i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Cafwyd adroddiadau cymysg ar ddechrau’r haf, gyda’r ansicrwydd a’r duedd i drefnu’n hwyr yn creu amodau masnach anodd ac ansicr.” – Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth.