Mae corff gwarchod niwclear y Cenhedloedd Unedig wedi dweud eu bod yn methu cael atebion gan Iran ynglŷn â’u huchelgais atomig.

Daw hyn wrth i Arlywydd Iran, Mahmoud Ahmadinejad, ddweud na fydd ei lywodraeth yn rhoi’r gorau i ddatblygu wraniwm na thrafod eu hawliau niwclear.

“O’n safbwynt ni, mae unrhyw faterion ynglŷn â rhaglen niwclear Iran wedi dod i ben”, meddai Ahmadinejad.

Ond fe ddywedodd yr arlywydd ei fod yn fodlon cynnal trafodaethau gyda phwerau mawr y byd ynglŷn â phryderon y gwledydd hynny.

Mae Iran yn honni nad yw eu rhaglen niwclear yn fygythiol. Ond mae’r Unol Daleithiau a’i chynghreiriaid yn credu eu bod yn ceisio adeiladu bom niwclear.

Mae arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama a’r cynghreiriaid Ewropeaidd, wedi rhoi tan ddiwedd y mis i Iran dderbyn y cynnig o gynnal trafodaethau gyda chwech o bwerau mawr y byd.

Pe bai Iran yn derbyn y cynnig fe allai fod ‘na gymhellion masnach iddynt, ond pe baen gwrthod, gallai’r wlad wynebu sancsiynau llym.