Bydd £13.3 miliwn yn mynd at brosiectau newydd i helpu i amddiffyn pobl yn Nwyrain Cymru rhag y perygl o lifogydd.

Bydd y rhaglen pum mlynedd yn helpu i amddiffyn 700 o gartrefi a busnesau a bydd yn cynnwys adeiladu amddiffynfeydd rhag llifogydd a chodi ymwybyddiaeth o fygythiad llifogydd mewn cymunedau sy’n agored i niwed.

Daw £6 miliwn o Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop, gyda gweddill y cyllid yn dod oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru ac eraill.

“Rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn pobl a’u paratoi ar gyfer realiti llifogydd”, meddai Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai.

“Ein gwaith ni yw paratoi cymunedau gystal ag y gallwn, boed hynny drwy adeiladu amddiffynfeydd newydd rhag llifogydd neu alluogi cymunedau i adfer yn gyflym pan fydd llifogydd yn digwydd.”

Yr ardaloedd sy’n debygol o elwa yw:

• Sir y Fflint
• Wrecsam
• Powys
• Sir Fynwy
• Casnewydd
• Caerdydd
• Bro Morgannwg