Mae pedwar milwr o’r Unol Daleithiau wedi marw mewn ffrwydradau yn Irac heddiw.

Bu farw un milwr ar ôl i fom daro patrôl yn ne Baghdad.

Ychydig wedi’r ymosodiad, fe gafodd tri milwr arall eu lladd wedi ffrwydrad yn targedu patrôl yng ngogledd y brifddinas.

Fe wnaeth yr Unol Daleithiau dynnu eu lluoedd allan o ardaloedd poblog Irac ar ddiwedd mis Mehefin, ac maen nhw wedi dioddef llai o golledion ers hynny.

Roedd ‘na gyfres o ymosodiadau ar draws Irac heddiw gyda phennaeth uned gwrthderfysgaeth heddlu Irac yn cael ei ladd ynghyd â phedwar o’u warchodwyr yn nhref Armili yng ngogledd y wlad.

Colledion

Dyma oedd diwrnod gwaethaf yr Unol Daleithiau am golledion ers 29 Mehefin.

Ers i’r ymgyrch filwrol gychwyn yn Irac ym mis Mawrth 2003, mae 4,343 aelod o luoedd arfog yr Unol Daleithiau wedi marw yn y wlad.